Cyfrannu

Erthyglau, Sylwadau a Talwrn Trafod

O dan IaithCymdeithas, Y Gwyddorau Celyd byddwn ni’n cynnwys pytau dwys a difyr fydd yn goleuo’r darllenydd am byncau sy’n ymwneud â’r materion hynny. Bydd yr erthyglau’n cyflwyno ymchwil ddifrifol a manol o safon yn ogystal ag erthyglau eraill – mwy ysgawn o bosibl – fydd yn cyflwyno gwybodaeth a syniadau am amryw agweddau sy’n ymwneud â meysydd diddordeb gwefan Dyallusion Llanbedr. Ymysg yr erthyglau gobeithir y byddwn yn cyhoeddi cyfweliadau ag amryw unigolion sydd wedi bod yn ymhel â meysydd o ddiddordeb i ni i gyd. Ein nod yw cynnig cymysgedd o wybodaeth ac o ddifyrrwch mewn dognau cyfartal i’r darllenwyr.

Bydd modd i ddarllenwyr ymateb i bob erthygl trwy chwanegu sylwadau gan ennyn trafodaeth a hyrwyddo dyalltwriaeth.

Fe all y caiff ambell i gyfraniad a dderbynnir ei osod o dan Talwrn Trafod yn hytrach na’i gyhoeddi fel erthygl, ond bydd hyn yn ôl natur y cyfraniad. Yr egwyddor llywiol yw i’r erthyglau gynrychioli gwaith ymchwil a meddwl pwyllog, tra bydd cyfraniadau o dan Talwrn Trafod yn cynrychioli rhai mwy ffwrdd â hi. Os yw rhywun am leiso barn neu am ofyn cwestiwn am faterion sy’n ymwneud â meysydd diddordeb gwefan Dyallusion Llanbedr, yna y Talwrn Trafod yw’r lle a neilltuwyd gennym i hynny. Y gobaith yw y bydd i rywrai ymateb i’r pytau a osodir yn y Talwrn Trafod ag i hyn ennyn trafodaeth a hyrwyddo dyalltwriaeth. Ond, fel gwedwyd o dan Cartre, er mwyn i’r Talwrn Trafod lwyddo bydd eisau golygydd llawn amser wrth y llyw, rhywbeth sy’n eisau ar hyn o bryd.

Cyfrannu Erthyglau

Croesewir cyfraniadau o bob math, boed yn rhai ysgolheigaidd ag academaidd neu’n rhai poblogaidd ag ysgawn. Ag – wrth reswm – ni raid, mewn unrhyw ffordd, i’r categorïau hyn fod yn rhai gwrthgyferbynnus.

Bwriedir golygu pob cyfraniad, ond dim ond golygu ‘ysgawn’ i gael gwared ag anghysondebau orgraffyddol a chyfeiradol a hefyd i gynnig awgrymiadau neu gwelliantau y gall y cyfranwyr naill ai eu derbyn neu eu gwrthod. Er anelu at gysondeb yn y sbelian a cadw at gonfensiynau’r orgaff safonol cymaint â gellir, bydd croeso i erthyglau sy wedi’u hysgrifennu mewn tafodiaith neu ag arlliw tafodieithol gan fod gwerthfawrogi’r amrywiaethau yn arf bwysig i werthfawrogi cyfoeth y Gymraeg heb sôn, wrth gwrs, am ddyall enwau hanesyddol (lleoedd, personau) a natur iaith yn gyffredinol.

Mae croeso i erthyglau Saesneg hefyd.

Rhannir hawlfraint pob erthygl a gyflwynir rhwng y wefan a’r awdur. Gall awduron dynnu eu herthyglau oddi ar y wefan pan mynnont gwneud hyn (ag o ganlyniad dychwelith yr hawlfraint yn ôl yn feddiant unigol yr awdur).

Halwch gyfraniad y licech chi weld ei gyhoeddi ar ein gwefan ar ffurf dogfen Word at y Dr Iwan Wmffre (iwan@llawern.com) a cewch ymateb buan.