Iaith

Amcan pwysig i wefan Dyallusion Llanbedr yw rhoi’r urddas sy’n ddyledus i Gymraeg y De a holl amrywiaethau rhanbarthol, cyweirol a llenyddol y iaith. A serch bod hyn yn un o’r amcanion sylfaenol, anghofir ddim o’r amcan llywiol o hyrwyddo gwybodaeth a dyallusrwydd.

Bydd greso twymgalon hefyd i gyfraniadau yn iaith ta pwy ranbarth yng Nghymru: Cymraeg ‘Lydan’ Gwynedd ochr yn ochr â Cymraeg ‘Fain’ Pywys heb anghofio Cymraeg Sir Fflint.

Mae croeso i erthyglau Saesneg hefyd.

Wrth anelu at unffurfiaeth, mae Cymraeg ysgrifenedig y dydd heddiw yn anwybyddu crugyn o eirau a ffurfiau da sy’n berffaith gywir, berffaith Gymreigaidd ag yn berffaith ganmoladwy. Datganwn y gwir garw: Mae’r rheiny sy’n arddel Cymraeg ‘safonol’ yn ddigon boddlon arddel ffurfiau llyfr a hefyd ffurfiau Gwyndodaidd gan dawlu sen ar rywbeth na sy’n gyfarwydd iddyn nhw. Ond peidwch â camsynied wrth hyn gan taw peth da yw hi bod siaradwyr Gwynedd yn arddel eu ffurfiau brodorol – ond dilyned gweddill y Cymry’r arfer iachusol y Gwyndodiaid.

Daw hi i hyn: Os ŷn ni’n falch o’n hiaith genedlaethol ond ddylen ni ddim, o’r herwydd, fod yn falch o’n mhamiaith o ta pwy ranbarth y dônt? A na thawlwch sen ar ffurfiau Cymraeg y De wedi’u hysgrifennu’n ôl safonau orgraff y Gymraeg wrth eu bedyddio nhw’n ‘dafodiaith’ – gair sy’n arwain mor rwydd at ‘wfft!’. Hyd yn oed os na pherswadwn ni ddarllenwyr i arddel geirau a ffurfiau deheuol y Gymraeg, rŷn ni’n hyderus y dôn nhw i ddyall pethau am y Gymraeg nag oedd yn wybyddus iddynt cyn hynny.

ERTHYGLAU

Llefydd a Lleoedd Iwan Wmffre
Llyfryddiaeth i Enwau Lleoedd Cymru Iwan Wmffre