Cartre

Mis Rhagfyr 2011

Ein Datganiad a’n Maniffesto                                     

Y gobaith yw i wefan Dyallusion Llanbedr dyfu i fod yn fan i ddarllen ag i drafod amrywiaeth lydan o byncau yn ymwneud ag astudiaethau dynol. Ni fyddwn yn ymwneud ag astudiaethau cain fel llenyddiaeth, celfyddyd a cerddoriaeth ond yn hytrach cadw at astudiaethau mwy ffeithiol. Does dim digon o sgrifennu ar byncau o’r fath yn y Gymraeg fel na fydd neb fawr yn gweld eisau achwyn at ymgais chwanegol i ddiwallu awch darllenwyr y Gymraeg am wybodaeth.

Ein llwyfan yw’r byd mawr llydan a mi fentrwn hefyd ar lwybrau diddiwedd y bydysawd.

Y nod yw cael erthyglau ag adolygiadau, boed ysgolheigaidd neu poblogaidd, ar yr amod eu bod yn ffrwyth myfyrdod ag nid mympwy yn unig. Bydd croeso i bobun gyfrannu ag i bob pwnc dan haul sy’n ymwneud â dyn y creadur, ond mae hi’n bwysig y bydd y wefan yn deilwng o’r enw a roddwyd iddi – sef ein bod yn unigolion sy’n ymgeiso’n burion at ddyall y byd o’n cwmpas. Nid yw hi’n fwriad baldorddus gyda ni wrth arfer y gair ‘dyallusion’; rŷn ni’n berffaith gytunus â’r ddihareb oesol

hanner call yw’r calla, mae modd i hwnnw wella

Byddai hi’n llesol se gyda ni hefyd lwyfan mwy agored i ddynon gyfrannu. A gyda hyn mewn golwg, os cewn afael ar unigolyn i dderbyn yr awennau i lywio trafodaethau bydden ni wrth ein bodd i chwanegu talwrn trafod at y wefan; man a fyddai’n rhoi cyfle i bobun gwyntyllu’u cwestiynau a’u barn heb fod yn rhaid iddynt, cyn hynny, gyflawni rhyw ymchwil fawr lafurus.

Cyfrwng Mynegiant y Wefan

Amcan arall i wefan Dyallusion Llanbedr yw rhoi’r urddas sy’n ddyledus i Gymraeg y De a holl amrywiaethau rhanbarthol, cyweirol a llenyddol y iaith. A serch bod hyn yn un o amcanion sylfaenol y wefan, bydd greso twymgalon hefyd i gyfraniadau yn iaith ta pwy ranbarth yng Nghymru.

Mae croeso i erthyglau Saesneg hefyd.

Mae cwestiwn amrywiaeth y Gymraeg (boed yn orgraff neu’n dafodiaith) yn gofyn helaethrwydd o le i drafod manolion y pwnc. Neilltuir nifer o weddalennau at y diben hwnnw o dan Iaith.

Cyfrannu

Os licech gyfrannu, halwch ysgrifau at Iwan Wmffre (iwan@llawern.com), ag i fwrw llygad ar y canllawau, trowch at Cyfrannu.