Daearyddiaeth Canan

Canan yw hen enw’r wlad a adnabyddir yn fynych heddiw fel Palesteina ag a rannir rhwng gwladwriaeth Israel a erthyl-wladwriaeth Palesteina.

Safle Caersalem

Gellir dyall safle Caersalem orau drwy ganolbwynto ar dair esgair sy’n disgyn o fryniau Juwdaea yn cydredeg o’r gogledd i’r de, tair esgair a enwir wrth fynd o orllewin i ddwyrain : Y BryngorllewinolBryn Moreia (neu Bryn-y-deml) – Bryn-yr-olewydd.

Cymysgwyd Seion y Beibl gyda’r Bryngorllewinol, ond cyfeiriai yn wreiddol at safle ar yr un esgair o dan Bryn Moreia manlle roedd dinas y Jebuseiaid a drigai yno cyn y goddiweddwyd gan Ddinasdafydd, cnewyllyn dinas Iddewig Caersalem, y dre a ymledodd yn ddiweddarach i orchuddio’r Bryngorllewinol.

Mae Bryn-yr-olewydd yn rhan o esgair sy’n cynnwys tua’r gogledd a enwir Y Ddisgwylfa 826 m, y safle ucha rhwng estyniadau gogleddol bryniau Juwdaea i’r de (uchafbwynt Mynydd Hebron 1,026 m) ag estyniad deheuol bryniau Samaria yn Ramallah i’r gogledd (uchafbwynt mynydd Tall Asur 1,016 m).

Diffaith Juwdaea

Mae ochr ddwyreinol Bryn-yr-olewydd yn nodi’r daflad manlle y dechreua Ddiffaith Juwdaea. Diffaith Juwdaea, diffaith gweddol cyfyng rhwng bryniau Juwdaea a’r Mor Marw. Llethrau Mynydd Hebron sy’n ffurfio ffin ddeheuol a dwyreinol Bryniau Juwdaea a llysdyfiant Mor y Canoldir yng Nghanan (Palesteina).

Mynydd Gerasim 881 m