Llefydd a Lleoedd

gan Iwan Wmffre (Prifysgol Wlster, Coleraine)

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng llefydd a lleoedd ’te? Wel, cwt neu gynffon y gair lle yn anad dim, neu’r terfyniad lluosog, neu – â bod yn fwy technegol – yr ôl-ddodiad lluosog. Fel y gwelir, mae un yn dibennu ag –ydd a’r llall yn dibennu ag –oedd.

Nid hynna yw’r unig wahaniaeth chwaith, mae -f- yn dod i’r brig rhwng lle a’r ôl-ddodiad yn achos –ydd ond nid yn achos –oedd. Pam hynny tybed? Yn ôl pob tebyg cafodd lle ei ystyried yn gymar seinegol i’r gair tref am i’r gair hwnnw golli’r -f ddiweddol ar lafar gan roi tre’ ond ei chadw yn fewnol yn y lluosog trefydd. Prawf o hynny yw’r ffurfiau llenyddol llef a geir am y gair lle mewn dogfennau o Oes y Tuduriaid a’r Stiwardiaid. Daeth llefydd i fod yn ffurf y lluosog oherwydd ei phatrymu ar y lluosog trefydd, ag yn wir llefydd yw’r ffurf lafar ar luosog lle ymhob tafodiaith o’r Gymraeg manlle trosglwyddwyd yr iaith o lin i lin. Gwn hyn o brofiad gan i fi weithio ymysg hen Gymraegwyr lleol ymhob cwr o Gymru yn ystod y 1990au yn casglu enghreifftiau o dafodiaith y cylch.

Serch hynny, lleoedd yw’r ffurf fwyaf cydnabyddedig yn yr iaith ysgrifenedig, a cawn fod tystiolaeth i lleoedd sawl canrif cyn bod tystiolaeth i llefydd yn ôl tystiolaeth Geiriadur Prifysgol Cymru (lleoed 13g yn erbyn llefydd 17g).

Gallai dyn gael ei drwblu gan y ffaith bod y ffurf lafar trwy Gymru benbaladr yn wahanol i’r hyn a ymddengys fod y ffurf henaf: a ydy hi’n bosibl bod llefydd yn cynrychioli ffurf fwy henafol a taw ffurf lenyddol yw lleoedd? Wel, ystyriwch taw ffurf lafar mynyddoedd yn y De yw mynyddau,* ac yn sir Gaerfyrddin ceir Ynysau yn enw ffarm ac nid Ynysoedd. Yr ymadrodd yn y De yw ers oesau ac nid ers oesoedd, a, rhagor, ceir tystiolaeth bod oesau yn bodoli mor bell yn ôl a’r 9fed ganrif yn y ffurf Hen Gymraeg oisou a geir yn Llyfr Teilo (serch bod rhywun rai canrifoedd wedyn wedi’i ddileu â stric gan roi oisoid yn ei le). Yn wir, mae tystiolaeth bod –oedd wedi datblygu yn ôl-ddodiad cynhyrchiol yn ystod yr Oesoedd Canol gan ddisodli ôl-ddodiaid eraill (awgrym o hyn yw na cheir bron nemor engraifft o’r ôl-ddodiaid cytras i –oedd yn y Llydaweg, chwaer-iaith y Gymraeg).

Ond mae o leiaf un ddadl yn erbyn llefydd fel hen ffurf luosog ar lle, sef yr –f- fewnol a drafodwyd uchod, gan y disgwylid ffurf fel llëydd (ffurf a geir ym 1759 yn ôl GPC ond ffurf yw hon sy’n hytrach na cynrychioli ffurf lafar gyffredin yn un sy’n ffrwyth rhesymoli Oes yr Ymoleuo, tuedd a welir ar ei chryfaf yng ngwaith Wiliam Owain Puw). Braidd bod modd gorgywiro (S. hypercorrect) neu cam-gywiro llef am lle cyn y 14eg ganrif – os dilynwn John Morris-Jones – pan dystir yr enghreifftiau cynharaf o golli -f ddiweddol mewn geiriau unsill (h.y. ne’, go’, ha’ am nef, gof, haf a.y.y.b.).** Rhaid bod ymwybod y Cymry o lle fel lle’, ac o ganlyniad y lluosog fel llefydd, yn deillio o gyfnod ar ôl y 14eg ganrif, neu fyddwn ni wedi cael tystiolaeth o ffurf fel llëydd.*** Mae hi’n debyg nad –oedd yn unig oedd yn ffurf gynhyrchiol ac ymledol, ond hefyd –ydd. Rhywbeth sy’n amlwg os meddyliwn am luosog nant yn nentydd yng Nghymraeg y dydd heddiw ond yn Naint neu Nannau mewn enwau lleoedd. Ac mae’r un peth yn union i’w weld yn nefnydd percydd**** am ‘gaeau’ yn iaith sir Benfro y dydd heddiw tra bod y ffurf Parcau yn fwy cyffredin yn enwau lleoedd yr un sir.

O ganlyniad, mae hi’n ddigon amlwg fod enwau lleoedd sy’n cynnwys y ffurfiau nentydd, percydd yn fwy diweddar nag enwau lleoedd sy’n cynnwys y ffurfiau nannau, naint, parc(i)au.

Ond gochelwch! Dyw ffurf ymddangosiadol ddiweddar ar luosog mewn enw lle ddim yn brawf digamsyniol bob tro bod yr enw’n ddiweddar. Yn achos maen ‘carreg’, er iddi hi fod yn hysbys i ni taw’r hen ffurf ar y lluosog oedd main yn hytrach na meini y dydd heddiw, dyw’r enw lle Meini-gwynion ger Talgarreg, sir Aberteifi, ddim mor ddiweddar â hynny gan i’r enw gymryd lle’r hen ffurf ar yr enw, Maingwynion (a hynny tua 1781 yn ôl tystiolaeth y ffurfiau ysgrifenedig). Yr un yw’r hanes ynglŷn â Meini-gwynion (Llangeitho), gynt Maingwynion a Pantmeini (Pont Rhydfendigaid), Pantymein ym 1839. Ond sylwch na chyfnewidwyd y ffurf newydd yr un lluosog yn lle’r hen ffurf yn achos enwau lleoedd eraill yn sir Aberteifi:

  • Tremain (ger Blaenannerch);
  • Esgairmain (Llanddewi Brefi) a yngenir ɛskɛrˈmejn;
  • Esgairmaingwynion (mynydd Cwmystwyth);
  • Penmain (ger Blaenporth), Llain y Meyn Ciffrivol 1750, a yngenir (n)ˈmejn er i’r henafiaethydd Edward Llwyd newid hyn i Meini Kyvrîvol ym 1722;
  • Main neu Mainhirion (Blaenpennal) a yngenir mejn er gwaethaf ambell ymgais i’w ynganu â meini fel yn y ffurfiau Minihirion 1819, Meini Hirion 1829, Meini 1990.

Yn yr achos diwethaf, yn enwedig, gwelwn ansicrwydd a ddylid mabwyso’r ffurf newydd neu gadw’r hen ffurf, dyma’r wedd ansicr sydd yn perthyn i broses o newid mewn iaith, rhywbeth y gellid ei gydio wrth y cysyniad “fight-or-flight” a ddatblygodd y bywydegydd Americanaidd Walter Bradford Cannon (1871–1945) i egluro ymateb pendiliol-wrthgyferbynnus creaduriaid wrth wynebu bygythiad allanol. Gwelwn wrth yr enghreifftiau uchod fod y ffurf luosog main wedi’i chadw mewn sawl achos ond wedi’i ‘diweddaru’ i meini mewn eraill. Hyd y gwn i, dim ond yn Meini (Llanychaearn), Meini’r Bwch 1690, y ceir y ffurf meini fel un weddol hen ar luosog maen yn sir Aberteifi. Mae hi’n debyg bod a wnelo hyn â gwahaniaeth ddaearyddol gan fod Llanychaearn yng ngogledd y sir a’r enghreifftiau eraill yng ngwaelod y sir.

Pa oblygiadau a gwersi sydd ymhlyg yn hyn oll?

Wel, yn gyntaf, pwysigrwydd talu sylw i bob gwahaniaeth mewn ffurf – boed nhw’n llafar neu’n ysgrifenedig – sydd ar enw lle. Mae hi’n wir nad yw amrywio mewn ôl-ddodiaid lluosog yn ei hunan yn newid dim ar ystyr yr enw, ond mae’r amrywio yn ein dysgu ni am ddatblygiad y Gymraeg. Yn benodol, mae didoli’r haenau hanesyddol sydd ynghlwm yn y creiriau llafar hyn o’n gorffennol – boed nhw’n eirfa, yn forffoleg, neu’n seiniau – yn ein galluogi ni i ddirnad yn well y cyfnod y sefydlwyd enw lle sy’n rhywbeth na wadiff neb ei fod o ddiddordeb i ni wrth geisio dyall y gorffennol.

Yn ail, ei bod hi’n bwysig dyall bod amrywiaeth yn rhan annatod o’r Gymraeg – fel gydag unrhyw iaith – ac nad yw bodolaeth rhagor nag un ffurf ar air o reidrwydd yn golygu bod un ffurf yn ‘dda’ a’r llall neu’r lleill yn ‘wael’. Yn aml bydd ffurf neilltuol yn perthyn i ardal benodedig a pwy yn eu iawn bwyll – heblaw iddynt fod yn coegio er mwyn hwyl – a fyddai’n honni bod iaith un ardal yn well na’r llall? Weithiau, mae’r gwahaniaeth yn un o gywair yn hytrach nag o dafodiaith, ond ddylen ni ddim addoli un cywair ar draul cywair arall. Felly ysgrifennwn llefydd mor rwydd ag yr ysgrifennwn lleoedd, ond pan yn sôn am enwau ar y lle a’r lle, efallai bod modd dadlau bod enwau lleoedd a’i hôl-ddodiad llenyddol yn swnio’n fwy technegol na’r enwau llefydd cyffredin, dim bod rhywbeth yn bod â’r ail. Ac os oes eisiau dangos hynny boed i chi ystyried siẁd yr eled ati i ddilorni’r rheiny sy’n hala llawer gormod o’u amser yn ymddiddori mewn enwau lleoedd: llawer rhwyddach a fyddai alw’r fath yna o ofera yn enwau-llefydda yn hytrach na’r annhebygol *enwau-lleoedda.

Nodiadau:

* Tyb gyfeiliornus – a ddilynwyd gan y rhan fwyaf o ramadegwyr ar ei ôl – oedd un John Morris-Jones bod yr ynganiad mynydde yn y De yn cynrychioli mynyddedd yn hytrach na mynyddau. Petasai hyn yn wir ni fyddai dannedd na nadredd yn cydfodoli yn yr un tafodieithoedd manlle yngenir mynydde, blynydde sydd o ganlyniad yn bendant yn cynrychioli mynyddau, blynyddau.

** Mae’r ffurf llefoedd – yn GPC (ond heb ddyddiad na chyfeiriad) – yn awgrymu y gallai -f– ymwthiol ddatblygu gyda’r ôl-ddodiad lluosog –oedd yn gystal a chyda’r ôl-ddodiad lluosog –ydd, ond gan na cheir lleoedd yn llafar unrhyw Gymraeg cyfoes, anodd dirnad p’un ai ffurf ddysgedig neu ffurf lafar oedd llefoedd.

*** Mae ffurf lleeu 14g yn ôl GPC a allai fod yn ffurf a ragflaenodd lleoedd, ond nid oes sicrwydd nad engraifft ddysgedig annodweddiadol sydd yma.

**** Er gwaetha’r ymddangosiad, nid yr ôl-ddodiad lluosog -i sy’n perci, y ffurf lafar gyffredin yn sir Benfro, ond percydd gyda’r –dd ddiweddol wedi’i ollwng, sy’n nodwedd mor amlwg o Gymraeg y sir honno, e.e. myny’, nedwy’, rhyfe’ am mynydd, nedwydd (nodwydd), rhyfedd. Ac nid tybiaeth bur yw hon ond ffaith, fel y gwelir oddiwrth y cae a elwid Perkydd ym Mhlwyf Dewi ym 1691 (papurau Cwrt-mawr).

© 2010 Iwan Wmffre